At: Aelodau yr Is-bwyllgorau Menter a Busnes a Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gan: Y Gwasanaeth Pwyllgorau
Dyddiad: 5 Rhagfyr 2012
RHEOLIADAU MANGREOEDD ETC. DI-FWG (CYMRU) (DIWYGIO) 2012
Diben
1. Gwahodd aelodau'r is-bwyllgorau i drafod a chytuno ar y dull o gymryd tystiolaeth bellach ar y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.
Cefndir
2. Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 ("Rheoliadau 2007") drwy ddarparu esemptiad i berfformwyr o ofynion di-fwg Rheoliadau 2007 yn yr amgylchiadau canlynol:-
· Pan roddir y perfformiad mewn cysylltiad â gwneud ffilm neu raglen deledu;
· Pan fydd uniondeb artistig y perfformiad yn ei gwneud yn briodol i’r perfformiwr ysmygu;
· Pan nad oes aelodau o’r cyhoedd yn gwylio’r rhaglen deledu neu’r ffilm yn cael ei gwneud; a
· Pan nad oes plant yn bresennol yn y rhan o’r fangre nad yw'n ardal ddi-fwg a lle byddai'r perfformiwr yn perfformio.
3. Cafodd y rheoliadau a'r memorandwm esboniadol eu gosod ar 18 Gorffennaf 2012. Cawsant eu hystyried gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 24 Medi ac ni adroddodd y Pwyllgor hwnnw y dylai'r Cynulliad dalu sylw arbennig i'r rheoliadau ar sail unrhyw ran o Reol Sefydlog 21.3. O ganlyniad, dywedodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ wrth y Pwyllgor Menter a Busnes a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol bod pryder ynghylch y mater hwn yn parhau ymysg rhai o Aelodau'r Cynulliad ac o ganlyniad i hynny ei bod wedi dod i'r casgliad bod budd mewn ystyried y dystiolaeth ymhellach. Mae'r ddadl ar y Rheoliadau wedi'i gohirio i alluogi'r ddau Bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar y cyd wrth bob grŵp sydd â diddordeb yn y mater hwn.
4. Ar 29 Tachwedd, cytunodd y ddau Bwyllgor i sefydlu is-bwyllgor â phum aelod yr un o dan Reol Sefydlog 17.17. Dylai'r ddau is-bwyllgor, sy'n cwrdd ar yr un pryd, ddod i'w casgliadau ac adrodd cyn gynted a bo modd o fewn cyfyngiadau'r amserlen fusnes. Bydd yr is-bwyllgorau'n cael eu diddymu ar ôl i'r Rheoliadau gael eu hystyried gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn.
5. Mae Rheol Sefydlog 17.19 yn gofyn bod unrhyw is-bwyllgor yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ei sefydlu. Yn ymarferol, golyga hyn y bydd disgwyl i'r ddau is-bwyllgor sy'n gweithio ar y Rheoliadau hyn ofyn i'w rhiant-bwyllgorau gymeradwyo'r adroddiad terfynol. Mae'r Gweinidog wedi cael rhybudd am y gofyniad gweithdrefnol hwn oherwydd mae'n bosibl y bydd gan y ddau riant-bwyllgor wahanol farn am ganfyddiadau'r is-bwyllgorau.
Cylch Gorchwyl Arfaethedig a'r Ymgynghoriad Ysgrifenedig
6. Gwahoddir aelodau'r is-bwyllgorau i ystyried y llythyr ymgynghori sy'n cynnwys y cylch gorchwyl a'r rhestr ddosbarthu - gweler Atodiad A.
7. Os bydd Aelodau'n cytuno, y cynnig yw cyhoeddi'r ymgynghoriad ysgrifenedig erbyn dydd Gwener 7 Rhagfyr 2012 gyda dyddiad cau i'r ymatebion ddydd Gwener 18 Ionawr 2013 (sy'n caniatáu cyfnod o chwe wythnos i ymgynghori).
Cymryd Tystiolaeth Lafar
8. Gwahoddir aelodau'r is-bwyllgorau i
· ystyried opsiynau amserlennu ar gyfer casglu tystiolaeth lafar yn y flwyddyn newydd, sydd wedi'u hamlinellu isod; ac
· ystyried y rhestr o dystion yr hoffai Aelodau eu gwahodd i roi tystiolaeth.
(i) Opsiynau amserlennu
9. Mae'r opsiynau isod yn ffyrdd posibl i amserlennu gwaith yr is-bwyllgorau, gan ystyried y rhaglenni gwaith y cytunwyd arnynt ar gyfer y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Menter a Busnes. Gwahoddir Aelodau i ystyried yr opsiynau a chytuno ar sut yr hoffent amserlennu gwaith yr is-bwyllgorau.
Opsiwn 1
Canfod amser i'r is-bwyllgorau gwrdd ar yr un pryd yn ystod y slotiau sydd eisoes ar gael i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Menter a Busnes (hynny yw, boreau Mercher, boreau Iau a phrynhawniau Iau).
Sylwch: Rhagwelir y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried nifer o Filiau yng Nghyfnod 1 yn y flwyddyn newydd. Golyga hynny, ynghyd â llwyth gwaith polisi trwm y Pwyllgor Menter a Busnes, mai'r cynharaf y gellir dechrau casglu tystiolaeth lafar yw 28 Chwefror.
Opsiwn 2
Mae dau slot fore Mawrth ar gael yn y flwyddyn newydd i'r is-bwyllgorau eu defnyddio:
· 09.00 – 11.00: Dydd Mawrth 22 Ionawr - gall yr is-bwyllgorau gwrdd yn y slot hwn heb effeithio ar raglenni gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r Pwyllgor Safonau;
· 09.00 – 11.00: Dydd Mawrth 29 Ionawr - gall yr is-bwyllgorau gwrdd yn y slot hwn ond byddai gwrthdaro ar gyfer un aelod o'r is-bwyllgorau sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Deisebau.
Os yw Aelodau o'r farn bod angen mwy na phedair awr i gymryd
tystiolaeth, gellir defnyddio'r slotiau dydd Mawrth hyn ar y cyd â unrhyw slotiau sydd ar gael yn rhaglenni'r rhiant-bwyllgorau ym mis Chwefror / Mawrth.
Sylwch: Mae'r opsiwn hwn yn gofyn am ystyried unrhyw wrthdaro o ran aelodaeth ac efallai bydd angen cytundeb y Pwyllgor Busnes.
Opsiwn 3
Canfod amser i'r is-bwyllgorau gwrdd ar yr un pryd tu allan i slotiau arferol y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Menter a Busnes a thu allan i amserlen bresennol pwyllgorau (h.y. brynhawn Llun, dydd Mercher a dydd Iau pa na fydd y rhiant-bwyllgorau yn cwrdd, neu cyn neu ar ôl cyfarfodydd y rhiant-bwyllgorau).
Sylwch: Byddai'r opsiwn hwn yn gofyn am ystyried pryd fyddai Aelodau ar gael ac unrhyw wrthdaro o ran aelodaeth ac efallai byddai angen cytundeb y Pwyllgor Busnes.
(ii) Tystion Posibl
10. Gall yr Aelodau ystyried gwahodd y cynrychiolwyr canlynol i sesiynau tystiolaeth lafar. Gwahoddir Aelodau i nodi os hoffent wahodd unrhyw sefydliadau eraill, neu nodi a oes meysydd penodol yr hoffent flaenoriaethu o ran y gwaith craffu.
Cynrychiolwyr o'r diwydiant ffilm a theledu, gan gynnwys:
· Asiantaeth Ffilm Cymru - asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer y diwydiant ffilm yng Nghymru
· BBC Cymru Wales
· PACT (Producers Alliance for Cinema and Television) - PACT yw cymdeithas masnach y DU sy'n cynrychioli a hyrwyddo buddiannau masnachol cwmnïau ffilm a theledu annibynnol
· TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) - Mae TAC yn gymdeithas fasnach sy'n cynrychioli buddiannau gweithwyr annibynnol sy'n cynhyrchu gwaith yn bennaf ar gyfer darlledwyr yng Nghymru
· Equity - undeb llafur y DU ar gyfer perfformwyr proffesiynol
· BECTU - undeb llafur ar gyfer gweithwyr ym meysydd darlledu, ffilm, theatr, adloniant a meysydd perthynol
· Guild of British Camera Technicians
Cynrychiolwyr o sefydliadau iechyd, gan gynnwys:
· Cancer Research UK
· Cymdeithas Thorasig Prydain/Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint
· ASH Cymru
· Cymdeithas Feddygol Prydain
· Coleg Brenhinol y Ffisigwyr
· Iechyd Cyhoeddus Cymru
· Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
Cynrychiolwyr llywodraeth leol, a fydd yn gyfrifol am orfodi'r Rheoliadau.
Cam i'w gymryd
11. Gwahoddir aelodau'r is-bwyllgorau i:
· ystyried a chytuno ar gylch gorchwyl, llythyr ymgynghori a rhestr o ymgynghoreion;
· ystyried opsiynau ar gyfer amserlennu'r gwaith a chytuno ar y dull o fynd ati gyda'r gwaith;
· ystyried a chytuno ar ba dystion i'w gwahodd i roi tystiolaeth lafar.
Atodiad A: Y Llythyr Ymgynghori